Thomas HuwOWENAr Fawrth 24, 2015 bu farw Huw, gwr annwyl a chariadus Carys, tad gofalus a balch Rhiannon a Daniel, mab triw y diweddar Tom a Joy Owen, mab-yng-nghyfraith parchus y diweddar Bob a Mari Gibson, brawd a brawd-yng-nghyfraith tyner Marc, Sian, Philip a Iolo. Cyfreithiwr medrus a chywir. Cynhelir gwasanaeth o deyrnged a diolch am fywyd a chyfraniad Huw yn Eglwys y Santes Fair, Sanclêr ar ddydd Gwener, Ebrill 10 am 11 y bore. Bydd y gwasanaeth ym Mharc Gwyn, Arberth yn hollol breifat. Derbynnir rhoddion os dymunir, yn hytrach na blodau, tuag at elusen CLIC Sargent trwy law yr ymgymerwr Glanmor D Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PG. Ffôn. 01267 241626.
Keep me informed of updates